top of page

Cyfle gwaith!


Disgrifiad Swydd

Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Cyflog: £14ya 16 awr yr wythnos (£22k y flwyddyn pro rata)

Cytundeb: 2 flynedd tymor penodol. Gellir estyn hwn, yn ddibynnol ar gyllid.

Lleoliad: Neuadd Bentref Aber-porth a gweithio ar-lein yn achlysurol


Amdanom Ni

Mae Neuadd Bentref Aber-porth yn ymddiriedolaeth elusennol lwyddiannus sy’n berchen ar y neuadd bentref newydd a Chanolfan Dyffryn, ac sydd hefyd yn rheoli ardaloedd gwyrdd a thri maes parcio yn y pentref. Yn 2019, cychwynnwyd project Calon y Gymuned a gododd £1.35m at ein neuadd bentref newydd. Rydym yn canolbwyntio ar fentrau newydd sy’n mynd i’r afael â thlodi gwledig ac eithrio cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys oergell gymunedol, gardd gymunedol, reilen dillad i’w hailgylchu, boreau coffi, ‘Fare Share’ a chiniawau cymunedol. Mae’r mentrau hyn yn dibynnu ar aelodau ymrwymedig o’r tîm gwirfoddolwyr sy’n allweddol i’n llwyddiant.


Eich rôl

Fel ein cydlynydd gwirfoddolwyr, eich prif rôl fydd recriwtio, hyfforddi, cefnogi a chadw

gwirfoddolwyr. Byddwch yn anelu at ddatblygu cyfleoedd i wirfoddolwyr sy’n cyd-fynd â’n

cenhadaeth ac yn annog pobl i gyfranogi yn eu cymuned leol.

Byddwch yn adeiladau perthynas â phartneriaid lleol fel CAVO, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Cymuned Aber-porth gan fynd i gyfarfodydd rhwydweithio lleol gan dderbyn hyfforddiant fel y bo’r angen. Byddwch yn adeiladu ar statws presennol Neuadd Bentref Aber-porth o ran ‘Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’.

Byddwch yn gweithio gydag ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr i gynnal digwyddiadau a

gweithgareddau codi arian ar ran y gymuned.

Byddwch yn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn llawn cymhelliant; hefyd yn cadw cofnodion ac yn sicrhau cydymffurfio â pholisïau diogelu.


Manyleb Person

Sgiliau a phrofiad: HANFODOL

Profiad o reoli gwirfoddolwyr neu mewn rôl sy’n hybu cyfranogi cymunedol.

Deall recriwtio, cefnogi a chadw gwirfoddolwyr.

Yn cydymdeimlo â’n cymuned ddwyieithog ac yn ei deall.

Profiad o gynnal hyfforddiant a goruchwylio unigolion/grwpiau.

Yn gallu rheoli amser yn dda a sgiliau trefnu cadarn, a’r gallu i reoli blaenoriaethau niferus.

Yn meddu ar hunan-gymhelliant a’r gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm.

Deall sut mae defnyddio TG a’r cyfryngau cymdeithasol.

Deall polisïau a gweithdrefnau diogelu.

Yn ddibynadwy, yn frwd ac yn barod i fod yn hyblyg.

Yn angerddol dros wirfoddoli a’r gymuned.

DYMUNOL

Yn hyderus i siarad Cymraeg.

Yn meddu ar brofiad o fewn y trydydd sector / y sector elusennol.

Yn deall diogelu data a GDPR.


Cyflog: £14 ya

Oriau: 16 yr wythnos – yn hyblyg i gydweithio â gwirfoddolwyr

Lleoliad: Neuadd Bentref Aber-porth gyda rhywfaint o weithio gartref

Yn atebol i: Pwyllgor Neuadd Bentref Aber-porth

Buddiannau:

Gliniadur

Ffôn symudol

Gweithio hyblyg


Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Neuadd Bentref Aber-porth

16 awr yr wythnos

£14 yr awr

Darperir gliniadur a ffôn symudol

Ydych chi’n angerddol dros wirfoddoli? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned?

Ydych chi’n mwynhau ysbrydoli pobl a dod â nhw ynghyd? Os felly, hoffem glywed gennych! Mae Neuadd Bentref Aber-porth yn dymuno penodi cydlynydd gwirfoddolwyr rhan-amser i ddatblygu’rtîm bywiog sydd gyda ni, i ehangu’r sylfaen o wirfoddolwyr fel ein bod wir yn gynhwysol ac wedi ein hymgorffori yn y gymuned leol.

Anfonwch eich CV drwy ebost aton ni os gwelwch chi’n dda, ynghyd â llythyr yn nodi pam mai chi yw’r person cywir ar gyfer y swydd hon at avhprojectofficer@gmail.com erbyn canol nos Nos Lun Awst 11, 2025.

Dyddiad dechrau: Hydref 1, 2025

Cyfweliadau: Dydd Llun, Awst 18, 2025 yn Neuadd Bentref Aber-porth.

 
 

CYSYLLTWCH Â NI

Aberporth, Ceredigion

SA43 2EW

/// laugh.lawfully.transmitted

Elusen Gofrestredig: 1199729

Ffôn: 07930 995314

  • Instagram
  • Facebook

© 2025 Neuadd Bentref Aber-porth

bottom of page