Y Faner Werdd yn parhau i chwifio
- Sue Lewis
- Jul 14
- 1 min read

Mae gwaith caled gwirfoddolwyr ymroddedig wedi sicrhau bod Gwobr Gymunedol fawreddog y Faner Werdd yn parhau i chwifio yng Nghanolfan Dyffryn Aberporth, wrth i Cadwch Gymru’n Daclus gyhoeddi enillwyr Gwobrau y Faner Werdd 2026.
Mae 330 o barciau a mannau gwyrdd penigamp ledled Cymru wedi cyrraedd y safonau uchel sydd eu hangen i chwifio’r Faner Werdd ar gyfer 2026. Mae hyn yn cynnwys 93 o safleoedd sydd wedi cyflawni statws llawn Gwobr y Faner Werdd a 237 sydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Cyflawnodd pedwar ar ddeg o’r safleoedd hyn Achrediad Safle Treftadaeth Werdd, a gefnogir gan Cadw, ar gyfer dangos ymrwymiad i warchod a hyrwyddo eu hanes unigryw.
Dyfarnwyd baner Gwobr Gymunedol y Faner Werdd i giwrfoddolwyr Neuadd Aberporth i gydnabod eu hymdrechion amgylcheddol, cyfleusterau rhagorol i ymwewyr, a’u cyfranogiad cymunedol.
Cynhaliwyd parti te arbennig yn ystod y seremoni codi'r faner, a fynychwyd gan wirfoddolwyr, cadeirydd neuadd y pentref Mike Harwood, cadeirydd y cyngor cymuned Zoe Storer, a'r cynghorydd sir Clive Davies.
Mae Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd yn dathlu mannau o safon uchel sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, megis gerddi cymunedol a gwarchodfeydd natur lleol.
Dywedodd cadeirydd neuadd y pentref, Mike Harwood: "Mae ein gwirfoddolwyr gardd wedi rhoi bywyd newydd i'r ardd hon – mae eu gwaith caled wedi dwyn ffrwyth."



