Rheolwr cyfleusterau
- Sue Lewis
- May 8
- 1 min read

ELUSEN GOFRESTREDIG NEUADD Y PENTREF A THIR HAMDDEN ABER-PORTH
ABER-PORTH VILLAGE HALL & RECREATIONAL GROUND REGISTERED CHARITY No. 1199729
RHEOLWR CYFLEUSTERAU
Mae’r elusen uchod yn chwilio am Reolwr Cyfleusterau rhan-amser, cymwysedig, i reoli asedau’r elusen a’i gweinyddiaeth.
Er mwyn sicrhau bod hyn yn rhedeg yn esmwyth, dymunwn benodi unigolyn a all, gyda chefnogaeth Ymddiriedolwyr yr elusen, Cydlynydd y Gwirfoddolwyr a’r gwirfoddolwyr, reoli rhedeg y cyfleusterau yn ddyddiol ar draws y ddau safle, sydd hefyd yn cynnwys y meysydd hamdden a’r meysydd parcio.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd gymhwysedd mewn rheoli cyfleusterau a gweinyddiaeth, gan gynnwys profiad mewn archebu lleoedd, ayyb.
Bydd y swydd hon yn gofyn am wybodaeth ymarferol o Word, Excel, Outlook – a’r gallu i bostio gwybodaeth ar wahanol safleoedd cyfryngau cymdeithasol ac i ddelio â chytundebau llogi a chalendrau digidol megis Hallmaster ac ati. Bydd angen bod yn hyblyg o ran oriau gwaith a’r gallu corfforol i symud eitemau amrywiol o ddodrefn. Bydd hefyd eisiau gwybodaeth ymarferol ar bolisïau trefniadol a deddfwriaethol ac ar sut i gasglu data amrywiol a chyfrannu at adroddiadau,
Lleoliad y Gwaith – Neuadd y Pentref Aber-porth a Chanolfan Dyffryn
Yn atebol i – Pwyllgor Ymddiriedolwyr AVH&RG
Oriau gwaith – Hyblyg, 16 awr yr wythnos (i gynnwys digwyddiadau mewnol/allanol yr elusen)Cyflog – £14.00 yr awr(Cyfnod prawf o 6 mis)
Lwfansau – Milltiredd
Hyfforddiant – angenrheidiol ar gyfer y rôl – blynyddol/cyfnodol
I geisio am y swydd hon, anfonwch gyflythyr a CV at Ann Oakleyavhc.sec@outlook.com erbyn Dydd Gwener 22 Mai 2026. Cynhelir cyfweliadau ar Dydd Mercher 10 Mehefin 2026 rhai sy ar y rhestr fer.



