Ymunwch â ni!
- Sue Lewis
- 4 days ago
- 1 min read

Ydych chi eisiau cymryd rhan yn eich cymuned leol? Oes gennych sgiliau y gallwch eu rhannu?
Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â Ymddiriedolaeth Neuadd y Pentref a Meysydd Hamdden,
Aberporth. Mae’r ymddiriedolaeth yn gyfrifol am Neuadd y Pentref, Canolfan y Dyffryn,
meysydd parcio’r pentref a’r holl mannau gwyrdd.
Rydym yn cyfarfod unwaith y mis (heblaw am Awst a Rhagfyr) ac yn gweithio gyda’n
gwirfoddolwyr i gynnal digwyddiadau megis Y Garnifal Flynyddol, Gweithgareddau Dydd Iau
Mawr, Y Marchnadoedd Cynnyrch misol, Cynllun Bwyd Fareshare, Oergell y Gymuned, Dillad
Dwy Waith wythnosol, Boreau Coffi, Ciniawau cymunedol a llawer mwy.
Os oes gyda chi ddiddordeb anfonwch lythyr yn dweud beth allwch chi gynnig at yr Ysgrifennydd
Annie Oakley ar avhc.sec@outlook.com.