Croeso i'r Fare Share
- Sue Lewis
- Oct 29
- 1 min read
Hoffech chi chwarae'ch rhan dros yr amgylchedd a chasglu rhywbeth blasus ar yr un pryd?
Dewch draw i Neuadd y Pentref Aber-porth i'r digwyddiad FARE SHARE bob dydd Llun rhwng 4yp a 6yp.
Mae gennym ddewis o fwyd dros ben o wahanol archfarchnadoedd, gan gynnwys llwyth o ffrwythau a
llysiau ffres, yn ogystal â nwyddau oer, bwydydd sych a phethau melys.
Mae’r dewis yn newid bob wythnos felly mae'n syrpreis bob tro! Dewch draw i gael cipolwg!
Does dim tâl am y nwyddau, ond fe werthfawrogir rhoddion ariannol i helpu gadw’r prosiect i fynd.
Mae'r eitemau sydd dros ben o'r digwyddiad Nos Lun ar gael yn yr oergell gymunedol ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Sadwrn.
Rydyn ni o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda’n prosiectau bwyd – os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’n Cydlynydd y Gwirfoddolwyr sef Julie ar 07539981909 neu anfonwch e-bosat volunteer@aberporthvillagehall.co.uk















