top of page

Llwyddiant Marchnad Gynnyrch


Mae gwirfoddolwyr yn Neuadd y Pentref, Aber-porth, yn dathlu llwyddiant eu Marchnad Gynnyrch


Y digwyddiad hwn - a gynhelir yn y neuadd ar ddydd Sul 26 Hydref o 10yb i 2yp - yw’r pumed i’w gynnal ers agor y neuadd y llynedd.


Dywedodd un o’r trefnwyr, Jeanette Leyland: 


‘Mae’r farchnad yn mynd o nerth i nerth.  Cynhelir y farchnad ddwywaith y flwyddyn ym mis Mai a mis Hydref, bob amser ar benwythnos Gŵyl y Banc ar ddechrau Mai, ac yna ar Sul olaf mis Hydref.  

Eleni, mae gennym restr aros, rhag ofn y bydd byrddau ar gael. Byddwn yn sicrhau bod y cyfranogwyr yn dod o’r dalglych ac yn gwneud eu cynnyrch eu hunain i’w werthu.  Fyddai’r digwyddiad ddim yn llwyddiant oni bai am y tîm o wirfoddolwyr sydd wrth gefn o’r dechrau i’r diwedd, ac am gefnogaeth yr ymddiriedolwyr.  Daeth dros 400 o bobl i mewn yn ystod pedair awr y digwyddiad fis Hydref diwethaf.’

Mae amrywiaeth o fasnachwyr lleol o safon uchel, yn cynnig crefftau a nwyddau a wnaed â llaw, o emwaith, eitemau pren, crefftau a nwyddau moethus.’


Dim ond £1 yw pris mynediad, sy’n cynnwys tocyn i ennill gwobr a roddwyd gan The Welsh Wind.  


‘Bu Yvette Brown a Lydia Niziblian yn arddangos eu gwaith yn ddiweddar yn yr Ŵyl Grefftau yng Nghastell Aberteifi,’ meddai Jeanette.  ‘Rydym yn anelu i gael gwneuthurwyr o’r safon uchaf ac mae ymwelwyr yn dod o ardal eang i weld pethau hardd a’u prynu.’


Cynhelir y Farchnad Gynnyrch yn Neuadd y Pentref, Aber-porth, ddydd Sul 26 Hydref o 10yb i 2yp.

ree

 
 

CYSYLLTWCH Â NI

Aberporth, Ceredigion

SA43 2EW

/// laugh.lawfully.transmitted

Elusen Gofrestredig: 1199729

Ffôn: 07930 995314

  • Instagram
  • Facebook

© 2025 Neuadd Bentref Aber-porth

bottom of page