Dathliad arbennig
- Sue Lewis
- Aug 12
- 1 min read
Cynhaliwyd dathliad arbennig yn Neuadd y Pentref ar Awst 9 – blwyddyn yn union wedi agoriad swyddogol y neuadd.
Daeth teulu, ffrindiau a chymdogion ynghyd ar gyfer achlysur dadorchuddio llun y diweddar Mary Bott MBE a rhoddwyd i'r neuadd gan y teulu er cof amdani. Gosodwyd y llun mewn lle amlwg yn yr ystafell Cwrdd a Chyfarch.
Roedd Mary yn gyn-gynghorydd y gymuned, yn ymddiriedolwr neuadd y pentref ac wedi codi milloedd ar filoedd o bunnau ar gyfer nifer o achosion da lleol.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Aberporth, Sue Lewis: “Os oedd unrhyw beth yn digwydd yn y gymuned, roedd Mary yn ei chanol hi – mudiadau a gweithgareddau lleol, gwisgo i fyny yn y carnifal blynyddol, actio ar y llwyfan, gwerthu tocynnau raffl yn gyson, siarad yn gyhoeddus yn aml– roedd hi'n gysylltiedig â phob digwyddiad.
Roedd ganddi hiwmor a phob tro yn llawn hwyl. Roedd ganddi'r gallu i ddechrau parti mewn ystafell wag.
Mae hi wedi gadael bwlch enfawr yn ein pentref a mawr yw ei cholled.
Merched Mary, Jane a Anne a welir gyda'r llun a ddadorchuddiwyd.
Gallwch ddarllen am fywyd Mary yma:
