Croeso Julie!
- Sue Lewis
- Oct 21
- 1 min read
Mae Neuadd y Pentref Aberporth wedi apwyntio “Cydlynydd y
Gwirfoddolwyr” newydd.
Dechreuodd Julie Ward ar y gwaith yr wythnos hon – mae’r rôl wedi’i hariannu
ar gyfer y ddwy flynedd nesaf gan Gronfa Gwobrau’r Loteri Genedlaethol i
Bawb.
Mae Julie yn wyneb cyfarwydd yn y pentref gan ei bod wedi bod yn arweinydd
“Brownies” ers saith mlynedd yn ogystal â gweithio yn y fferyllfa leol am bum
mlynedd.
O hyn ymlaen, bydd hi’n gweithio gyda’r tîm o wirfoddolwyr sy’n helpu i redeg
digwyddiadau yn Neuadd y Pentref a Chanolfan Dyffryn.
Mae'r gwirfoddolwyr yn hanfodol i barhad yr oergell gymunedol, y gwasanaeth
Dillad Dwywaith a'r Llyfrgell fach. Nhw hefyd sy'n darparu'r ciniawau a'r
boreau coffi cymunedol wythnosol.
Dywedodd Julie:
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r tîm o wirfoddolwyr anhygoel sy
yn Neuadd Bentref Aberporth. Mae gyda ni lawer o ddigwyddiadau ar y
calendr a rydym yn croesawu unrhyw un â hoffai wirfoddoli gyda ni.”
Gallwch gysylltu â Julie ar 07539981909 neu




