BYWGRAFFIAD MARY BOTT MBE
- nomisrogers
- Aug 1
- 5 min read
Updated: Aug 11

Plentyndod Cynnar Mary
Ganwyd Mary Bott (née Evans) ar 16 Hydref 1924 yn Dulwich, Llundain. Roedd
ei rhieni wedi symud o ardal Tregaron i Lundain ac wedi dechrau busnes llaeth.
Cymraeg oedd iaith gyntaf y teulu ac ni siaradodd Mary unrhyw Saesneg
nes iddi fynd i’r ysgol yn Dulwich. Mae atgofion Mary o Lundain yn cynnwys
chwarae gêm marblis o’r enw “nickems a spanems” ar y stryd.
Mynychoedd Mary a’i theulu gapel Jewin, sef y capel Cymraeg hynaf yn
Llundain wedi’i leoli yn Clerkenwell. Enillodd Mary ysgoloriaeth i fynd i Ysgol
Ramadeg Brondesbury – dim ond llond llaw o ddisgyblion o’i hysgol gynradd
oedd wedi cyflawni’r gamp hynny!
Roedd gan Mary frawd o’r enw David, a bu’r ddau’n treulio llawer o’u plentyndod
gyda’u Modryb Anne – a elwid ganddynt yn Nan-Nan – roedd hi’n dod o
Fryncrug ger Tywyn. Daeth Nan-Nan i fyw gyda Mary a David yn Llundain i
ofalu amdanynt, ond pan ddechreuodd y rhyfel yn 1939, aeth Mary i fyw gyda
hi yn Nhywyn a gorffen ei haddysg uwchradd yno, tra’r aeth David i aros gyda
pherthnasau yn Nhregaron.
Bywyd Mary yn y Pedwardegau
Yn 1940, gadawodd Mary yr ysgol yn 16 oed a dechrau gweithio fel clerc gyda
Bwrdd Iechyd Cymru yng Nghaerdydd. Ar y penwythnosau, byddai Mary yn
mynd i’r sinema i wylio ffilmiau Charlie Chaplin.
Ychydig cyn D-Day yn 1944, pan oedd Mary yn 19 oed, cafodd ei galw i ymuno
â’r Fyddin Tir ac ar y dechrau anfonwyd hi i fferm ger Llangeitho, cyn symud i
fferm yn Llanarth gyda 30 buwch godro. Yno dysgodd sut i ddefnyddio peiriant
godro a sut i ladd gwair. Anfonwyd Mary wedyn i ffermydd yn Nhresaith,
Rhydlewis a Phenparcau ger Aberystwyth. Dechreuai’r diwrnodau ar y fferm
am hanner awr wedi pump y bore a chofiai Mary y dyddiau hyn fel rhai blinedig
a llafurus, yn aml yn gorfod casglu’r tail, ei stacio a’i ddefnyddio’n ddiweddarach
fel gwrtaith. Ar un fferm gofynnodd Mary ar ei diwrnod cyntaf ble’r oedd y tŷ
bach, a dywedodd y ffermwr “Mae tu allan, rownd y gornel.” Pan adroddodd
Mary yr hanes, dywedodd, “Roeddwn i’n gyfarwydd â thai bach y tu allan, ond
cae agored oedd y ‘tŷ bach’ yma mewn gwirionedd! Pan ddes i nôl, roedd y
ffermwr yn chwerthin ac yn gofyn ‘Oedd e’n ddigon mawr i ti?’ Do’n i ddim yn
gwybod ble i edrych!” Er y gwaith caled, cafodd Mary llawer o hwyl!
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd
Ar ddiwedd y rhyfel, penderfynodd Mary fynd i goleg ym Mangor lle cymhwysodd
fel athrawes ac yna symudodd yn ôl i Loegr i weithio mewn ysgol ar gyrion
Llundain.
Tua’r un amser symudodd rhieni Mary yn ôl i’w bro mebyd sef Blaenafon ger
Tregaron. Nhw oedd â gofal y Swyddfa Bost yno am am rai blynyddoedd cyn
ymddeol i bentre glan môr Aberporth a byw yn “Dyffryn Cottage”.Bu Mary yn dysgu yn Essex am tua dwy flynedd, ond ar ôl i’w thad farw,
penderfynodd ddychwelyd i Gymru i ofalu am ei mam oedd yn bur wael ei
hiechyd. Tra’n byw yn “Dyffryn Cottage” fe gafodd swydd fel athrawes yn Ysgol
Gynradd Aberporth.
Mary, Ray a’r Teulu
Parhaodd Mary i fyw yn y tŷ ar ôl marwolaeth ei mam ac yn fuan ar ôl hynny
fe gyfarfu â Raymond Bott mewn Dawns yn Neuadd y Pentref. Roedd Ray yn
drydanwr gyda’r RAE ac yn wreiddiol o Birkenhead ger Lerpwl. Priodwyd hwy yn
Birkenhead yn 1956 ac yna symudon nhw i fyw yn “Dyffryn Cottage” yn barhaol.
Cafodd Mary a Ray bedwar o blant – Peter, Jane, Anne a Tony – naw o wyrion a
saith o or-wyrion. Gadawodd Mary ei swydd dysgu pan oedd ei phlant yn ifanc,
ond dychwelodd i’r gwaith wedyn. Yn anffodus, bu farw Ray yn gymharol ifanc
yn 66 oed.
Cyfraniad i Fywyd y Pentref
Ar ôl marwolaeth Ray, cynyddodd cyfraniad Mary i fywyd y pentref. Roedd hi’n
greiddiol i’r gymuned am ddegawdau ac yn adnabyddus am werthu tocynnau
raffl. Roedd y carnifal flynyddol hefyd yn achlysur bwysig i Mary. Mae gan y
rhan fwyaf o bobl Aberporth atgofion melys o hynt a helynt Mary yn y carnifal
blynyddol, lle byddai hi bob tro yn gwisgo i fyny ac yn dewis thema cyfoes oedd
wrth ddant pawb!
Roedd Mary yn cefnogi nifer o elusennau, gan gynnwys rhai oedd yn agos iawn
at ei chalon. Roedd hi’n un o sylfaenwyr ac yn gadeirydd yr elusen Buttercup,
a sefydlwyd i helpu teuluoedd gyda phlant sâl yn ardal Aberporth. Roedd Mary
yn gefnogwr selog i’r Lleng Brydeinig Frenhinol ac yn gwerthu pabi o ddrws
i ddrws am flynyddoedd lawer. Trefnodd hefyd nifer o ddigwyddiadau i godi
arian i’r Eisteddfod Genedlaethol, y Trefoil Guild ac elusennau fel Cymdeithas
y Deillion, Sefydliad Calon Prydain a Barnardos.
Roedd Mary yn ymddiriedolwraig ar bwyllgor Neuadd Bentref Aberporth ac
wedi codi miloedd o bunnau tuag at adeiladu neuadd newydd. Ar ei phenblwydd yn 80 oed, yn lle anrhegion, gofynnodd am roddion tuag at y neuadd ac
o ganlyniad cododd dros fil o bunnau. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned
Aberporth am flynyddoedd lawer ac yn gadeirydd rhwng 1988 a 1989.
Roedd ffydd Mary yn bwysig iawn iddi. Roedd hi’n aelod ffyddlon ac yn ddiacon
o’r Hen Gapel sef y Capel Methodistaidd yn Aberporth.
Mary a’r Democratiaid Rhyddfrydol
Roedd Mary, fel ei thad o’i blaen, yn gefnogwr ffyddlon i’r Democratiaid
Rhyddfrydol, ac mewn sawl etholiad bu’n cynorthwyo’r AS Mark Williams
gyda’i ymgyrchu. Yn ystod un etholiad daeth car y Democratiaid
Rhyddfrydol i Aberporth ac fe roddwyd y meicroffon i Mary a chafodd llawer
o hwyl yn creu sloganau doniol i ddifyru trigolion Aberporth a Mark Williams!
Mae gan Mark Williams lawer o atgofi on melys o Mary, dwedodd ei bod bob tro
yn llawn cyngor ymarferol gyda synnwyr digrifwch gwych.
Anrhydeddau Mary
Oherwydd ei gwaith gwirfoddol enillodd Mary yr anrhydedd o gario’r Fagl ar
gyfer Gemau’r Gymanwlad yn 2001 ac fe’i henwyd yn wirfoddolwr y fl wyddyn
yn 2005 gan y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan. Ym mis Mai 2015
gofynnwyd iddi oleuo’r “Fagl” yn Aberporth i goffáu 70 mlynedd ers VE Day.
Fodd bynnag, ei hanrhydedd mwyaf oedd cael ei hurddo gyda’r MBE yn 2006
am ei holl waith gwirfoddol a chodi arian. Diwrnod arbennig iawn i Mary oedd
mynd i Balas Buckingham a derbyn y fedal gan Y Frenhines Elizabeth yr Ail.
Ar yr un diwrnod, cafodd Tom Jones ei anrhydeddu’n Farchog a derbyniodd y
Beverly Sisters eu MBE hefyd. Cafodd plant Mary eu gwahodd i’r seremoni yn
y palas – a roeddent yn falch iawn o’i gweld yn derbyn yr anrhydedd. Ar ôl y
seremoni cyfarfu’r teulu â AS Ceredigion, Mark Williams, a’u gwahoddodd am
bryd o fwyd yn Nhŷ’r Cyffredin – diwedd perffaith i ddiwrnod hyfryd.
Pan ddathlwyd penblwyddi’r Ail Rhyfel Byd fe ddaeth profi ad Mary fel “Land
Girl” i’r amlwg. Gwahoddwyd i siarad â gwahanol fudiadau am ei phrofi adau
a chafodd ei chyfweld gan ITV Cymru ar gyfer y rhaglen “The Greatest
Generation” a ddarlledwyd ar 7 Mehefi n 2022. Ym mis Mai 2025 lansiwyd y llyfr
“WORLD WAR TWO – Voices From Wales” gan G.J. Lewis a Hugh Morgan
yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro – gwahoddwyd teuluoedd y rhai a
gyfrannodd i’r llyfr i’r lansiad a bu aelodau o deulu Mary yn bresennol. Mae’r
llyfr yn cynnwys hanes personol pwerus am ddigwyddiadau’r Ail Ryfel Byd,
wedi’i gasglu oddi wrth y werin bobl a oedd yno ar y pryd – a roedd Mary yn un
o’r bobl hynny. Roedd teulu Mary yn llawn balchder o weld cymaint o bobl yn
talu teyrnged i Arwyr y Rhyfel ac i Ferched y Tir ar y diwrnod.
Diwedd Cyfnod
Pan fu farw Mary ym mis Rhagfyr 2022, teimlwyd ei fod yn ddiwedd cyfnod.
Roedd Mary’n berson arbennig yn y gymuned... yn ymroddedig, yn weithgar,
yn ofalgar, yn fyfyriol, yn benderfynol, yn egwyddorol, yn garedig – a bob tro yn
barod i rannu jôc!
GORFFWYS MEWN HEDD MARY BOTT
