Atgofion Pentref
- Sue Lewis
- May 26
- 1 min read
O Storom Eira 1979 i nofio blynyddol Gwyl San Steffan a dathliadau arall di-ri' – mae’r ffotograffydd o Aber-porth, Emyr Rhys Williams, wedi bod yn tynnu lluniau o fywyd y pentref dros y pum degawd
diwethaf.
Fel rhan o ddathliad “Diwrnod Oed Heb Ffiniau” ar ddydd Mercher, Mehefin 11, fe gynhelir arddangosfa
o fwy na 200 o ffotograffau Emyr Rhys Williams yn Neuadd y Pentref Aber-porth.
Mae'r digwyddiad wedi cael ei ariannu gan y Ganolfan Heneiddio'n Well.
“Rydyn ni eisiau dathlu gwerth y cyfraniadau a wneir gan bob un ohonom trwy gydol ein oes a rhannu
profiadau amrywiol pobl wrth iddynt heneiddio,” meddai llefarydd o “Heneiddio’n Well”
Bydd digwyddiad Aberporth yn rhedeg o 2yp tan 5yp, gyda mynediad a lluniaeth am ddim.
Yn ôl Sue Lewis sy'n ymddiriedolwr ac yn swyddog prosiect yn Neuadd y Pentref, Aber-porth “Rhoddodd
y grant hwn gyfle i ni arddangos lluniau gwych Emyr a dathlu’r cyfraniad y mae pobl wedi’i wneud yn y gymuned dros y blynyddoedd. Disgwyliwch weld ffotograffau o rai o bobl hŷn y pentref yn gwneud pob math o “antics” pan oeddent yn iau!!!”
